Cyfarfod cyntaf y Grŵp Trawsbleidiol ar Hawliau Defnyddwyr

15 Mehefin - Cynhaliwyd trwy Teams

Yn bresennol

 

Sioned Williams (SW)

Aelod o'r Senedd

Jane Dodds (JD)

Aelod o'r Senedd

Rhun ap Iorwerth (RI)

Aelod o'r Senedd

Luke Young (LY)

Cyngor ar Bopeth Cymru

Rebecca Woolley (ReW)

Cyngor ar Bopeth Cymru

Shah Alom Sumon (SS)

Swyddfa John Griffiths AS

Simon Harris (SH)

Awdurdod Defnyddwyr a Marchnadoedd

David Beer (DB)

Ffocws ar Drafnidiaeth

Jessica Tye (JT)

Awdurdod Safonau Hysbysebu

Rhodri Williams (RW)

Y Cyngor Defnyddwyr Dŵr

Amy Dutton (AD)

Cyngor ar Bopeth Cymru

Lindsey Kearton (LK)

Cyngor ar Bopeth Cymru

Alun Evans (AE)

Cyngor ar Bopeth Cymru

 

Gan mai hwn oedd cyfarfod cyntaf y grŵp, croesawodd SW bawb, diolch iddynt am eu diddordeb ac amlinellu prif bwrpas y grŵp

     Mae tystiolaeth yn dangos nad yw marchnadoedd bob amser yn gweithio orau i bobl ac mae'n bwysig ein bod yn ystyried y ffordd orau i bobl gael gafael ar nwyddau a gwasanaethau. -enghreifftiau cosb teyrngarwch, premiymau digidol, prisiau personol.

     Mae rhai pobl yn profi mwy o anfantais mewn marchnadoedd nag eraill a nod y grŵp hwn fydd ystyried pa ysgogiadau a chyfleoedd sydd ar gael yng Nghymru i sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad llawn at nwyddau a gwasanaethau - ystod lawn o fynediad gan gynnwys ariannol, daearyddol, demograffig, diwylliannol ac ieithyddol a chorfforol.

     Er nad yw’r rhan fwyaf o’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â hawliau defnyddwyr wedi’i datganoli (yn bennaf materion diogelu defnyddwyr yn ymwneud â safonau bwyd) pwrpas y grŵp yw archwilio sut y gall pobl yng Nghymru fod yn fwy hyderus fel defnyddwyr o’r ystod lawn o nwyddau a gwasanaethau defnyddwyr sydd ar gael ac sy’n dod i'r amlwg mewn marchnad ddigidol gynyddol

 

Roedd consensws ymhlith y rhai a oedd yn bresennol bod yr amcanion hyn yn briodol.

Penodi swyddogion

Gwahoddodd AE geisiadau ar gyfer Cadeirydd y grŵp - roedd yn rhaid bod yn Aelod o'r Senedd, cynigiwyd SW gan RI ac eiliwyd gan JD ac fe’i phenodwyd yn briodol fel cadeirydd y grŵp.

Gofynnodd SW am enwebiadau ar gyfer yr ysgrifenyddiaeth a chynigiwyd Cyngor ar Bopeth Cymru gan RI ac eiliwyd gan JD ac fe’u penodwyd yn briodol fel ysgrifenyddiaeth ar gyfer y grŵp.

 

Cyflwyniad

Yna, rhoddodd LY Cyngor ar Bopeth Cymru gyflwyniad i'r rhai oedd yn bresennol ar sut mae'r argyfwng costau byw a thueddiadau defnyddwyr cyffredinol yn effeithio ar ddefnyddwyr yng Nghymru. 

 

Cafwyd sylwadau cyffredinol a myfyrdodau ar y cyflwyniad gyda rhai cwestiynau penodol

JD - ar fater PPM, tybed beth allwn ni ei gynnig/galw ar gwmnïau ynni i’w wneud? Ateb - craffu a monitro effaith y cyhoeddiad ychwanegol o £4 miliwn a wnaed yn ddiweddar i sicrhau bod unrhyw fylchau/methiannau yn cael eu nodi a’u dileu/lliniaru yn eu herbyn.

JD - prisio ethnigrwydd yn y farchnad yswiriant ceir, beth sydd angen i ni fod yn ei wneud i ddatrys hyn? Ateb - Mae'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) yn ymchwilio i hyn ar hyn o bryd gan wirio cydberthnasau a phennu maint y broblem a gallwn ymchwilio ymhellach unwaith y bydd y canfyddiadau hynny wedi'u cyhoeddi.

Nododd SW bod adroddiad diweddar hefyd wedi amlygu bod enghreifftiau prisio gwahaniaethol mewn gofal plant yn seiliedig ar ragdybiaethau am ethnigrwydd plentyn o’r enw a hefyd enghreifftiau o wahaniaethu ar sail cod post a allai yn ogystal â chuddio gwahaniaethu economaidd-gymdeithasol fod yn brocsi ar gyfer mathau eraill o wahaniaethu - awgrym y gallai prisio gwahaniaethol ffurfio ffrwd ehangach o waith ar gyfer y grŵp yn y dyfodol.

 

Yr oedd trafodaeth gyffredinol ar y cyflwyniad hwn a materion defnyddwyr ehangach gyda chrynodeb isod

Awgrymodd nifer o’r rhai a oedd yn bresennol y dylid canolbwyntio ar sgamiau.  Amlygodd RI fod ganddo ddiddordeb arbennig yn effaith sgamiau ar y rhai a allai fod yn arbennig o agored i niwed ac yn agored i gael eu hecsbloetio.

Rhannodd JT ddiweddariad byr ar rywfaint o waith yr oedd ASA yn ei wneud gan gynnwys gwaith ar BNPL (Prynwch Nawr Talwch yn Ddiweddarach) gan gynnwys canllawiau wedi'u diweddaru ac ymchwiliadau parhaus.

Cododd RW fater tariff cymdeithasol sengl ar gyfer pob cwsmer dŵr, waeth beth fo'r cwmni cyflenwi.  Tynnwyd sylw at yr angen i archwilio rhannu data ar draws sectorau i sicrhau nad oes yn rhaid i ddefnyddwyr ailadrodd gwybodaeth a'u bod yn gallu cael eu hadnabod a'u darparu â gwasanaethau priodol.  Hefyd argymhelliad y dylid gwahodd Sian Phipps neu berson arall o banel defnyddwyr cyfathrebiadau OFCOM Cymru i gyfarfodydd yn y dyfodol.

Rhoddodd SH drosolwg o waith diweddar gan y CMA a chefnogi’r grŵp fel fforwm lle gellid casglu a rhannu tystiolaeth ar draws sefydliadau a chyrff sydd am gefnogi a diogelu defnyddwyr sy’n cael mynediad i farchnadoedd. SH hefyd yn awgrymu y dylai Safonau Masnach fod mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.

Siaradodd DB am gynigion deddfwriaethol gan San Steffan i ddiwygio’r rhwydwaith rheilffyrdd gan effeithio’n benodol ar y gwledydd datganoledig a’r daith gyfan o integreiddio traciau a threnau. Soniodd DB hefyd am y Papur Gwyn presennol ar ddiwygio bysiau a’r cynnig ar gyfer siarter teithwyr Cymru gyfan newydd ac awgrymodd y gallai’r rhain fod yn eitemau i’w trafod yn y dyfodol gan y grŵp.

Eglurodd TM fod Which? yn cynhyrchu adroddiad mewnwelediad ar gyfer pob gwlad gydag ymchwil yn digwydd Tachwedd/Rhagfyr ac y gallai'r grŵp hwn fod yn lle da i ddod o hyd i syniadau pellach.  Dywedodd TM hefyd fod eu gwaith diweddaraf yn cefnogi canfyddiadau’r cyflwyniad gan Cyngor ar Bopeth Cymru a’u bod ar fin dechrau ymchwil pellach i atgyweirio cartrefi trwy lens ar y cyd yr argyfwng costau byw a dyheadau sero net.

Eglurodd SS fod John Griffiths AS yn cadeirio dau grŵp trawsbleidiol, ar gydraddoldeb hiliol a thlodi, a bod rhai o'r themâu a drafodwyd heddiw yn gorgyffwrdd â sgyrsiau diweddar yno, ac efallai y byddai'n ddefnyddiol cydweithio ar ddarnau o waith yn y dyfodol.

Diolchodd SW i bawb am eu cyfraniadau a daeth â’r cyfarfod i ben.

 

Camau nesaf - Cyngor ar Bopeth Cymru i goladu'r awgrymiadau mewn cynllun gwaith ac yna rhannu dyddiadau a awgrymir ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol gyda'r rhai sy'n bresennol.